Rhif y ddeiseb: P-06-1314

Teitl y ddeiseb: Insiwleiddio holl gartrefi Cymru rhag y gwres a'r oerfel... cyflwyno grantiau sy'n agored i bawb!

Geiriad y ddeiseb: Gyda chynnydd aruthrol ym mhrisiau ynni a miliynau o deuluoedd yng Nghymru’n wynebu tlodi tanwydd eithafol, mae’n bryd cyflwyno grantiau, sy'n agored i bawb, a fyddai'n caniatáu i holl bobl Cymru insiwleiddio eu cartrefi rhag y gwres a’r oerfel.

Mae'n frawychus bod gan Gymru rai o'r cartrefi â’r inswleiddio gwaethaf yn Ewrop i gyd.  Byddai grant o 25 i 50 y cant tuag at gostau inswleiddio eiddo yn annog pobl i fuddsoddi i wneud eu cartrefi'n fwy ynni-effeithlon a lleihau eu hallyriadau.

Mae blynyddoedd o danfuddsoddi mewn inswleiddio cartrefi Cymru wedi arwain at sefyllfa lle mae pobl yn agored i effeithiau’r cynnydd mewn prisiau ynni.

Dyna pam rydym yn galw am gyflwyno grantiau brys sydd ar gael i bawb fel y gall aelwydydd sy'n wynebu'r posibilrwydd o fod mewn cartrefi oer a llaith y gaeaf hwn dalu am fesurau inswleiddio syml. Mae angen Bargen Newydd Werdd sy’n agored i berchnogion tai, landlordiaid a chynghorau a fydd yn sicrhau bod cartrefi yn gynnes a chyfforddus, yn lleihau allyriadau carbon, ac yn creu miloedd o swyddi gwyrdd.

Mae gan bawb yr hawl i gartref cynnes, ond eleni gallai miliynau o Gymry fod mewn sefyllfa lle maent yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi neu fwyta...rhaid peidio â chaniatáu i hynny ddigwydd!

Insiwleiddio yw un o'r dulliau mwyaf effeithlon o arbed ynni gan ei fod yn eich cadw'n gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf.

Dylai’r cwmnïau ynni, sy’n gwneud biliynau o elw pan fo cymaint yn ofni ynghylch cadw’n gynnes y gaeaf hwn, ddefnyddio eu helw i dalu am raglen insiwleiddio genedlaethol frys.


1.        Y cefndir

Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd Grŵp Cynghori ar Ddatgarboneiddio Cartrefi yng Nghymru Llywodraeth Cymru yr adroddiad ‘Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell’: Adolygiad annibynnol ar ddatgarboneiddio cartrefi Cymru’. Nododd yr adroddiad y canlynol:

Mae gan Gymru rai o'r tai hynaf a lleiaf thermol effeithlon yn y DU ac Ewrop. Adeiladwyd 32% o'r stoc dai yng Nghymru cyn 1919, pan nad oedd unrhyw safonau adeiladu o ran perfformiad thermol. Dim ond 10% o gartrefi yng Nghymru gafodd eu hadeiladu yn ystod y 18 mlynedd diwethaf, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae gofynion perfformiad ynni wedi newid yn sylweddol..

Roedd yr adroddiad yn argymell ôl-osod ar raddfa fawr i sicrhau bod yr holl gartrefi presennol yng Nghymru yn cyrraedd Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) safon A erbyn 2050. Mae’r argymhelliad hwn yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflawni allyriadau carbon sero net yng Nghymru erbyn 2050.

Mae llawer o gynlluniau gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sy’n gallu darparu cymorth i ddeiliaid aelwydydd sydd am insiwleiddio eu cartref yn well. Mae llawer o’r cymorth wedi’i dargedu, fodd bynnag, ac mae’n canolbwyntio ar eiddo tai cymdeithasol ac aelwydydd ar incwm isel.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad i ddatgarboneiddio rhagor o gartrefi drwy ôl-ffitio yn ei Rhaglen Lywodraethu.

Ym maes tai cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP). Fel y nodir yn llythyr y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Cadeirydd, gall y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio helpu i wella inswleiddio fel rhan o gyfres o gamau i gefnogi datgarboneiddio. Mae’r Rhaglen yn cynnwys profi nifer o ddulliau ar gyfer datgarboneiddio, a’r gobaith yw y byddant yn cael eu cyflwyno i ddeiliadaethau eraill o 2023 ymlaen.

Yn y sector preifat, cyflawnir cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer ôl-osod inswleiddio drwy raglen Nyth. Mae Nyth yn cynnig gosodiadau effeithlonrwydd ynni am ddim, a all gynnwys inswleiddio, i ymgeiswyr sy'n bodloni'r  meini prawf cymhwysedd a ganlyn:

§    Rydych yn berchen ar eich cartref neu'n ei rentu'n breifat (nid gan awdurdod lleol na chymdeithas dai)

§    Mae eich cartref yn ynni aneffeithlon ac yn ddrud i'w gynhesu

§    Rydych chi neu rywun sy'n byw gyda chi yn cael budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd neu yn dioddef o gyflwr anadlol, cyflwr cylchrediad y gwaed neu gyflwr iechyd meddwl cronig ac yn ennill incwm sydd islaw'r trothwyon diffiniedig

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Mynd i’r Afael â Thlodi Tanwydd newydd ym mis Mawrth 2021. Nod y cynllun hwn oedd sicrhau na fyddai rhagor na 5 y cant o aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd erbyn 2035 ‘cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol’ ac roedd yn argymell gwella effeithlonrwydd ynni aelwydydd i gyflawni hyn. Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru adolygu cynnydd o ran y Cynllun hwn yn 2023.

Rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Ebrill 2022, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer y fersiwn nesaf o’r rhaglen Cartrefi Clyd, cyn i gynllun Nyth ddod i ben ym mis Mawrth 2023. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw hyd yma.

Ar 14 Mehefin 2022, diystyrodd y Prif Weinidog raglen insiwleiddio frys ar gyfer aelwydydd agored i niwed y gaeaf hwn, gan nododd fod diffyg buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a diffyg llafur medrus ar gael. Nododd y Prif Weinidog hefyd fod yr amrywiaeth yn y mathau o dai ledled Cymru yn ei gwneud yn amhosibl i lunio dull ‘un maint i bawb’ ar gyfer ôl-osod inswleiddio.

Ar 8 Tachwedd, gwnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar wella effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi Cymru. Yn y datganiad, amlinellodd y bydd ffocws Llywodraeth Cymru yn parhau i fod ar gefnogi cartrefi incwm is sydd mewn tlodi tanwydd i leihau eu biliau a'u hallyriadau carbon.

3.     Camau gan Lywodraeth y DU

Ar draws Prydain Fawr gall y Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO) ddarparu cymorth gydag ôl-ffitio deunydd inswleiddio, ond caiff ei gyfyngu’n gyffredinol i aelwydydd sy’n derbyn budd-daliadau neu sy’n byw mewn tai cymdeithasol (yn y ddau achos rhaid i’r eiddo fod â sgôr effeithlonrwydd ynni isel). Fodd bynnag, mae gan awdurdodau lleol rywfaint o hyblygrwydd i ehangu'r meini prawf cymhwysedd os ydynt yn cymryd rhan yn y Cynllun ECO4 Flex.

Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn cynnal ymgynghoriad ar y Cynllun ECO+, y cynigir y bydd yn ymestyn buddion y Rhwymedigaeth Cwmniau Ynnig (ECO) i unrhyw gartref o fewn bandiau treth gyngor A i C (yng Nghymru) sydd â sgôr tystysgrif perfformiad ynni o D neu is. Disgwylir i ECO+ ddechrau ym mis Ebrill 2023.

4.     Camau gan Senedd Cymru

Ym mis Ionawr 2022, lansiodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad i dlodi tanwydd a'r rhaglen Cartrefi Clyd. Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ar 18 Mai 2022, a chafwyd ymateb ar y cyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gweinidog Newid Hinsawdd ar 11 Gorffennaf yn dilyn yr adroddiad. Derbyniwyd pob argymhelliad a wnaed, naill ai'n llawn neu o leiaf mewn egwyddor.  Cynhaliwyd dadl ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawnar 21 Medi.

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi bod yn cynnal ymchwiliad aml-gam ers mis Mawrth 2022 ar ddatgarboneiddio cartrefi Cymru. Dechreuodd y Pwyllgor ar waith cwmpasu cychwynnol rhwng mis Mawrth a mis Mai ’i asesu'r cynnydd a wnaed hyd yma cyn penderfynu ar y meysydd yr hoffai [y Pwyllgor] ymchwilio iddynt yn fanwl fel rhan o raglen waith tymor hwy.' Mae'r Pwyllgor bellach yn cynnal ymchwiliad, er mwyn asesu datgarboneiddio cartrefi yn y sector tai rhent preifat a’r sector tai perchen-feddianwyr. Mae adroddiad ar ganfyddiadau'r Pwyllgor i'w ryddhau yn fuan.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.